Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2013 |
|
|||
Amser: |
08:30 - 08:50 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Lesley Griffiths William Graham Jocelyn Davies (yn lle Elin Jones) Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Virginia Hawkins, Pennaeth Pwyllgorau Cynulliad dros dro Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru Claire Fife, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Croesawodd y Pwyllgor Busnes Jocelyn Davies a oedd yn dirprwyo ar ran Elin Jones.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar y newidiadau i fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3 a 4 ddydd Mercher.
Ddydd Mawrth, dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes.
3(iv) Y Bil Cartrefi Symudol (Cymru): Llythyr gan Peter Black
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Peter Black yn nodi ei fwriad i gyfeirio'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru) i'r Cyfnod Adrodd yn dilyn y ddadl Cyfnod 3 sydd wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher.
3(v) Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Deddfwriaeth a'r Siambr dros doriad yr haf.
4 Deddfwriaeth
4(i) Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) at y Pwyllgor Cyllid i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i hepgor trafodion Cyfnod 1, yn amodol ar weld y Bil adeg ei gyflwyniad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 8 Tachwedd 2013.
4(ii) Rheoli'r Rhaglen Ddeddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar wella'r wybodaeth sydd ar gael i'r Pwyllgor Busnes wrth gyfeirio Biliau at Bwyllgorau i graffu arnynt yng Nghyfnod 1 a 2 a'r materion sy'n deillio o hynny.
Nododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'n edrych ar sut fyddai Gweinidogion yn rhannu gwybodaeth am Filiau gydag Aelodau yn y dyfodol.
Unrhyw Fusnes Arall
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddadl Cyfnod 3 wythnos diwethaf ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a chytunodd iddi ddangos y Cynulliad ar ei orau fel deddfwrfa aeddfed. Nododd y Llywydd y byddai’r arfer o beidio â glynu'n dynn at y cyfyngiad amser ar gyfer cyfraniadau Aelodau yn ystod dadleuon Cyfnod 3 yn parhau ar gyfer dadleuon Cyfnod 3 sydd i ddod.